Mae tua 150 o forfilod yn gaeth ar draeth yn Awstralia, a’r awdurdodau yn ceisio eu hachub.

Gwelwyd yr anifeiliaid gan bysgotwr ym Mae Hamelin, tua 180 milltir i’r de o Perth, yn gynnar bore yma.

Roedd tua hanner y morfilod eisoes wedi marw, yn ôl awdurdodau yng ngorllewin Awstralia.

Dywedodd swyddogion cadwraeth eu bod yn ceisio achub yr anifeiliaid sydd wedi goroesi ar y traeth.

“Bydd cryfder yr anifeiliaid a’r tywydd gwyntog a gwlyb yn dylanwadu ar bryd a ble y byddwn yn ceisio eu symud allan i’r môr,” meddai Jeremy Chick o’r Adran Bioamrywiaeth, Cadwraeth ac Atyniadau.

Hefyd mae’r awdurdodau yn rhybuddio pobl i aros draw o’r ardal oherwydd y tebygolrwydd y bydd siarcod wedi eu denu yno.