Mae’r heddlu yn dal i holi cyn-arlywydd Ffrainc ynglyn â honiadau iddo dderbyn arian anghyfreithlon gan gyfundrefn Muammar Gaddafi yn Libya er mwyn talu am ei ymgyrch etholiadol yn 2007.

Ar ôl treulio’r nos yn ei gartref ym Mharis, fe ddychwelodd Nicolas Sarkozy i orsaf heddlu yn Nanterre, i’r gogledd-orllewin o brifddinas Ffrainc, heddiw, i gael ei holi.

Mae ymchwiliad i’r honiadau wedi bod ar y gweill ers 2013.