Mae darn o un o Sgroliau’r Môr Marw yn cael ei arddangos yn gyhoeddus yn Amgueddfa Israel yn Jerwsalem am y tro cyntaf ers ei ddarganfod 70 mlynedd yn ôl.

Mae Apocryphon Genesis, yr unig gopi o destun hynafol Iddewig sy’n ymhelaethu ar straeon o lyfr cyntaf y Beibl, yn dyddio o’r ganrif gyntaf Cyn Crist, acroedd ymhlith y saith sgrôl gyntaf a ddarganfuwyd yn anialwch Jwdea yn 1947.

Mae Sgroliau’r Môr Marw, casgliad o destunau Iddewig a ddarganfuwyd mewn ogofâu anialwch yn y Lam Orllewinol ger Qumran yn y 1940au a’r 1950au, yn dyddio o’r drydedd ganrif Cyn Crist i’r ganrif gyntaf Oed Crist.

Maen nhw’n cynnwys y copïau cynharaf o destunau sydd wedi’u cynnwys yn y Beibl; dogfennau sy’n amlinellu credoau sect Iddewig; yn ogystal â thestunau eraill fel Apocryphon Genesis.

“Dyma’r unig gopi o’r llyfr hwn ar y ddaear,” meddai Adolfo Roitman, curadur Amgueddfa Israel, lle mae’r sgroliau’n cael eu cadw.