Mae’r awdurdodau yn Nepal yn ei chael hi’n anodd adnabod y rheiny sydd wedi goroesi damwain awyren, gan fod cymaint ohonyn nhw wedi eu llosgi’n ddrwg, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, neu’n methu siarad.

Fe blymiodd yr awyren, a oedd yn teithio o Bangladesh, i’r ddaear y tu allan i faes awyr Kathmandu ddydd Llun yr wythnos hon, gan droi’n belen dân.

Dim ond 11 o’r 22 rheiny sydd wedi goroesi sydd wedi’u hadnabod hyd yn hyn. Mae 19 yn dal i dderbyn triniaeth yn yr ysbyty. Fe gafodd 49 o deithwyr eu lladd yn y digwyddiad.

 

 

Ar fwrdd yr awyren US-Bangla Airways pan aeth i drafferthion, yr oedd 32 o deithwyr o Fangladesh; 33 o Nepal; ac un o Tsieina ac un o ynysoedd y Maldives.