Mae ci wedi marw ar awyren United Airlines ar ôl i aelod o staff fynnu bod rhaid ei roi mewn bin uwchben teithwyr.

Roedd yr awyren yn cludo teithwyr o Houston i Efrog Newydd.

Mae’r cwmni wedi derbyn cyfrifoldeb, gan ddweud na ddylid byth roi anifeiliaid ymhlith bagiau.

Roedd teithwyr eraill wedi tynnu lluniau o’r digwyddiad ar y daith nos Lun, gan ddweud eu bod nhw wedi clywed y ci yn cyfarth yn ystod y daith.

Ond doedd neb yn gwybod fod y ci wedi marw tan ar ôl i’r awyren lanio ym maes awyr LaGuardia.

Mae ymchwiliad ar y gweill.