Mae’r dylunydd ffasiwn o Ffrainc, Hubert de Givenchy, wedi marw yn 91 oed.
Roedd yn ffigwr blaenllaw yn y maes, ac ynghyd â dylunwyr eraill o Baris – gan gynnwys Christian Dior a Yves Saint Laurent – llwyddodd i ailddiffinio ffasiwn wedi’r Ail Ryfel Byd.
Roedd yn gyfrifol am gynllunio’r ffrog fach ddu i Audrey Hepburn yn y ffilm Breakfast at Tiffany’s ac yn ystod ei yrfa ddisglair, fe sefydlodd gysylltiadau clos â llu o bobl enwog gan gynnwys yr actores Elizabeth Taylor; gwraig cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jackie Kennedy; a Thywysoges Grace o Monaco.
Sefydlodd label ei hun yn 1952, gan ei werthu yn 1988 i gwmni LVMH.
“Mae colled y dyn arbennig yma, a’r arlunydd yma oedd gen i’r fraint o’i adnabod, yn peri tristwch mawr i mi,” meddai Cyfarwyddwr Artistig Givenchy, Clare Waight Keller.