Mae pump o bobol oedd yn teithio mewn hofrennydd a blymiodd i afon yn ninas Efrog Newydd, wedi marw.

Dywed yr heddlu bod chweched person, y peilot, wedi llwyddo i ddianc o’r hofrennydd a’i fod wedi cael ei achub gan gwch oedd yn mynd heibio.

Yn ôl llygad dystion, roedd yr hofrennydd wedi plymio i’r dŵr yn gyflym gan droi ar ei hochr toc wedi 7yh nos Sul.

Roedd yr hofrennydd Eurocopter AS350 yn eiddo i gwmni Liberty Helicopters sy’n cynnig teithiau i ymwelwyr.