Ni fydd ffederasiwn pêl-droed Gwlad Belg yn cyflogi rapiwr sy’n adnabyddus am ddefnyddio geiriau anweddus, i gynhyrchu eu cân swyddogol ar gyfer Cwpan y Byd eleni.

Bu dadl byth ers i’r ffederasiwn ddewis y rapiwr Damso ar gyfer gwneud y gân.

Wrth egluro’r tro pedol, roedd y ffederasiwn yn ymddiheuro “i bawb a oedd yn teimlo eu bod wedi eu tramgwyddo, gwahaniaethu yn eu herbyn neu eu tanseilio”.

Roedd Alexander De Croo, Dirprwy Brif Weinidog Gwlad Belg, wrth y Senedd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod ddoe y dylai Cymdeithas Bêl-droed Brenhinol Belg “ddewis rhywun sy’n ysbrydoli, nid un sy’n gwahaniaethu”.