Mae arbenigwyr o’r Cenhedloedd Unedig wedi cyhuddo Gogledd Corea o ddarparu deunydd ar gyfer rhaglen arfau cemegol Syria.

Mae’r wlad hefyd wedi’i chyhuddo o fynd yn groes i sancsiynau, trwy ddarparu deunyddiau ar gyfer rhaglenni taflegrau Syria a Myanmar.  

Yn ôl yr arbenigwyr, cafodd 40 casgliad o nwyddau – ynghyd â thechnegwyr – eu hanfon ar y slei i Syria rhwng 2012 a 2017.

Mewn un achos daeth swyddogion o hyd i 13 storfa lawn “teils sydd yn medru gwrthsefyll asid”.

Mae Syria wedi’i chyhuddo gan y Gorllewin o ddefnyddio arfau cemegol yn erbyn gwrthryfelwyr, ond mae Llywodraeth y wlad yn gwadu hyn.  

Daw canfyddiadau’r arbenigwyr o ddogfen sydd bellach wedi dod i law’r wasg, a fydd yn cael ei chyhoeddi i’r cyhoedd yng nghanol mis Mawrth.