Mae o leiaf 15 o bobol wedi marw a dwsinau wedi’u hanafu yn sgil daeargryn a darodd Papua Guinea Newydd ddechrau’r wythnos hon.
Tarodd y daeargryn gradd 7.5 ddydd Llun (Chwefror 26) gan ddinistrio isadeiledd yn nhalaith Southern Highlands.
Cafodd pedwar o bobol eu lladd yn nhref Mendi pan gwympodd eu tŷ am eu pennau, a bu farw tri pan ddaeth tirlithriad ar draws eu cartref.
Ymhlith yr wyth arall fu farw, roedd plant a pherson ifanc yn ei arddegau.
“Rydym yn delio â difrod anferthol a chatastroffig,” meddai Llywodraethwr y dalaith, William Powi.
“Dydi’r bobol yma erioed wedi wynebu’r fath dinistr, maen hyn yn drawmatig.”