Mae disgwyl i fwrdd cwmni Harvey Weinstein wneud cais i fod yn fethdalwr ar ôl i drafodaethau i werthu asedau’r cwmni fethu.

Roedd y cyfarwyddwr ffilm, Harvey Weinstein, yn un o sylfaenwyr y Weinstein Co yn 2005.

Cafodd ei ddiswyddo ym mis Hydref y llynedd ar ôl cael ei gyhuddo o ymosod yn rhywiol a phoenydio dwsinau o ferched. Mae Harvey Weinstein wedi gwadu’r holl honiadau.

Mae Weinstein Co wedi bod yn chwilio am rywun i achub y cwmni ers hynny.

Yn ôl adroddiadau yn y Los Angeles Times roedd cyfarwyddwyr y cwmni wedi dweud nos Sul nad oedd dewis arall ond gwneud cais i fod yn fethdalwr.

Daw’r penderfyniad ar ôl i’r bwrdd fethu a sicrhau cytundeb i werthu’r stiwdio ffilm am $500 miliwn (£357.8 miliwn) i grŵp buddsoddi.

Fel rhan o’r cytundeb roedd y buddsoddwyr wedi gwneud addewid i godi o leiaf $40 miliwn  (£28.6 miliwn) ar gyfer cronfa i dalu iawndal i’r merched sydd wedi cyhuddo Harvey Weinstein.