Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio yn India dan amheuaeth o gynllwynio i gipio £1.2 biliwn oddi ar fanc trwy dwyll.

Banc Cenedlaethol Punjab oedd y targed, ac mae’n debyg mai bwriad y cynllwyn oedd cipio arian trwy geisiadau am fenthyg arian.

Mae awdurdodau yn credu mai’r gemydd a’r biliwnydd, Nirav Modi, sydd yn bennaf gyfrifol am y cynllwyn ond bellach mae ar ffo.

O’r unigolion sydd wedi cael eu harestio mae pump ohonyn nhw’n weithwyr yn y banc, ac un yn weithiwr i Nirav Modi.

Mae Nirav Modi yn bennaeth ar gwmni gemwaith sydd â changhennau moethus ledled y byd, gan gynnwys un newydd yn Llundain.