Fe fydd Arlywydd newydd De Affrica, Cyril Ramaphosa, yn annerch y genedl am y tro cyntaf heddiw, wedi iddo gael ei ethol i’r swydd ddoe.

Daeth yr Arlywyddiaeth i’w ddwylo ar ôl i’r cyn-Arlywydd, Jacob Zuma, roi’r gorau iddi ddydd Mercher (Ionawr 14), wrth iddo wynebu pwysau i ymddiswyddo yn sgil honiadau o lygredd.

Wrth i’r Arlywydd newydd baratoi i annerch y Senedd yn Ne Affrica yn hwyrach heddiw, mae suon y bydd yn gwneud newidiadau i’w gabinet, gan gael gwared ar y gweinidogion hynny a oedd yn gysylltiedig â’r gyfres o lygredd.

Ers i Cyril Ramaphosa gymryd yr awenau, mae’r Rand, sef arian De Affrica, wedi codi mewn gwerth, ond mae’r Arlywydd newydd yn wynebu poblemau hir-dymor yn y wlad, gyda’r economi’n arafu a diweithdra dros 25%.

Cyril Ramaphasa, a oedd yn ffefryn i olynu Nelson Mandela i’r Arlywyddiaeth yn 1999, yw’r pumed Arlywydd ers diwedd apartheid yn 1994.