Mae nifer o ffigyrau adnabyddus wedi galw am gyflwyno rheolau llymach tros ynnau, wedi i o leiaf 17 o bobol gael eu saethu’n farw mewn ysgol yn yr Unol Daleithiau.

Bellach mae cyn-ddisgybl 19 blwydd oed yn y ddalfa dan amheuaeth o gyflawni’r gyflafan yn Ysgol Uwchradd Marjory Stoneman Douglas, Fflorida.

Ymysg yr enwogion sydd am weld rheolau llymach yn yr Unol Daleithiau, mae’r actores Julianne Moore a’r seren deledu Kim Kardashian West.

‘Dyletswydd’

“Mae gyda ni ddyletswydd i sicrhau bod ein plant a’n athrawon yn ddiogel tra maen nhw yn yr ysgol,” meddai Kim Kardashian West.

“Dydi gweddïo ddim yn ddigon: rhaid gweithredu. Dw i’n galw ar aelodau’r Gyngres i wneud eu gwaith, a diogelu Americaniaid rhag trais gynnau hurt.

“Dyma’r deunawfed ymosodiad gwn mewn ysgol yn yr Unol Daleithiau ers mis Ionawr,” meddai Julianne Moore wedyn. “Beth sydd angen digwydd fel bod cyfreithiau gwn ein cenedl yn newid?”

Y Gweriniaethwyr

Mae Llywodraethwr Gweriniaethol Fflorida, Rick Scott, wedi dweud mai gweithred o “anfadrwydd pur” oedd yr ymosodiad, ond mewn cynhadledd â’r wasg gwrthododd siarad am reolau gynnau.

Ac, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, wedi ymateb trwy ddweud ei fod yn “gweddïo” tros deuluoedd y rhai a fu farw yn yr ymosodiad “dychrynllyd”.

Hyd yn hyn, mae’r Arlywydd wedi gwrthod newidiadau sylfaenol yn y deddfau gynnau.