Mae Israel wedi dweud y bydd yn ei hamddiffyn ei hun wrth gyfiawnhau saethu drôn o Iran i lawr yn Syria.

Cafodd un o awyrennau Israel ei saethu i lawr cyn i luoedd daro’n ôl.

Dyma’r weithred filwrol fwyaf gan Israel yn Syria ers dechrau’r gwrthdaro yn 2011.

Yn ôl Israel, roedd yr ymosodiad arnyn nhw’n “ddifrifol ac yn afreolaidd”, ac fe rybuddiodd y byddai’n sicrhau bod Iran yn cael ei dal i gyfrif.

Dydy Israel ddim wedi cadarnhau pwy oedd wedi saethu’r awyren i lawr – y tro cyntaf, o bosib, i elyn saethu un o’i hawyrennau i lawr ers rhyfel Libanus yn 1982.

Dywedodd aelod o luoedd arfog Israel fod “Iran yn llusgo’r rhanbarth i ganol antur nad yw’n gwybod sut y bydd yn dod i ben”.

Trafodaethau brys

Mae Prif Weinidog Israel, Benjamin Netanyahu a’r Gweinidog Amddiffyn, Avigdor Lieberman wedi cynnal trafodaethau brys yn Tel Aviv.

Dywedodd Benjamin Netanyahu ei fod e wedi siarad ag Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin hefyd.

Mae Israel wedi cyhuddo Iran o fynd i ofod awyr y wlad a dinistrio safle yn Syria.

Fe fu’n rhaid i sawl peilot o Israel ddianc o’u hawyrennau yng ngogledd Israel. Cafodd un peilot anafiadau difrifol.

Cafodd pedwar o safleoedd Iran ac wyth o safleoedd Syria eu taro gan Israel wrth iddyn nhw ymateb.

Mae Iran yn wfftio honiadau Israel eu bod nhw wedi saethu drôn i lawr, gan ddweud fod y cyfan yn “warthus”.

Mae Israel wedi galw am gefnogaeth Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig i feirniadu’r ymosodiad gan Iran.