Mae’r ymdrechion i dynnu rhagor o bobol allan o’r rwbel yn parhau yn dilyn daeargryn difrifol yn Taiwan wrth i nifer y meirw godi i chwech.

 

Mae o leia’ 225 wedi’u hanafu hefyd a mwy na 140 yn dal i fod ar goll yn dilyn y trychineb neithiwr.

 

Mae dau ddwsin o bobol mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty wedi’r daeargryn a gyrhaeddodd 6.4 ar raddfa Richter.

 

Mae fideos a lluniau o sir Hualien, a deimlodd yr effeithiau gwaetha’, yn dangos adeiladau’n deilchion.

 

Mae miloedd o gartrefi bellach heb gyflenwadau trydan na dŵr.

 

‘Pob ymdrech’

 

Dywedodd Arlywydd y wlad, Tsai Ing-wen, fod “pob ymdrech” yn cael eu gwneud i ddod o hyd i bobol yn fyw.

 

Mae lle i gredu y gallai nifer fawr o’r bobol sydd ar goll fod mewn un adeilad 12 llawr. Dydy hi ddim yn ddiogel i dïmau achub fentro i ganol yr adeilad ar hyn o bryd, meddai swyddog y llywodraeth.

 

Mae lle i gredu bod gweithiwr mewn gwesty ac un o’r trigolion sy’n byw ger safle’r daeargryn ymhlith y rhai fu farw.

 

Cafwyd sawl ôl-gryniad yn dilyn y daeargryn ac mae trigolion lleol wedi’u symud i lochesi dros dro – a rhai yn aros mewn stadiwm bêl-fas.