Mae protestwyr Cwrdaidd ac Eidalaidd wedi mynd ben-ben â’r heddlu, wrth i arlywydd Twrci, Recep Tayyip Erdogan, gyfarfod â’r Pab er mwyn trafod statws dinas Jerwsalem, hawliau dynol a ffoaduriaid.

Mae heddlu mewn dillad reiat wedi rhwystro tua 150 0 wrthdystwyr ger afon Tiber yn Rhufain, tra bod y gwleidydd yn ymweld â’r Fatican am y tro cyntaf – a’r tro cyntaf mewn 59 mlynedd i brif weinidog Twrci.

Fe ddaw’r protestio wedi i Twrci gyhoeddi ymgyrch yn erbyn Cwrdiaid mewn cornel yn Syria. Yn ol llywodraeth Twrci, mae’r milwyr Cwrdaidd Syria, sy’n derbyn cefnogaeth gan America, yn gweithredu fel terfysgwyr, ac yn gangen o’r un math o wrthryfelwyr sy’n ymladd oddi fewn i Twrci.

Mae ochr Twrci a’r Fatican wedi disgrifio’r trafodaethau fel rhai parchus, ac mae’r ddwy ochr wedi mynegi pryder ynglyn â datganiad Donald Trump ddeufis yn ol ynglyn â statws Jerwsalem yn brifddinas Israel.