Mae cyn-arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, wedi ysgrifennu at Senedd y rhanbarth er mwyn sicrhau y bydd yn cael dychwelyd ar gyfer sesiwn yno yn y  gobaith o gael ei ail-ethol yn arweinydd.

Mi wnaeth Llys Cyfansoddiadol Sbaen ddatgan ddydd Sadwrn (Ionawr 27) bod yn rhaid iddo fod yn bresennol yn sesiwn y senedd yr wythnos hon, os yw am gael ei ail-ethol yn arweinydd Catalwnia. Ond mae’n wynebu cael ei arestio os bydd yn dychwelyd.

Mae’r gwleidydd wedi bod ar ffo yng Ngwlad Belg ers ymgyrch annibyniaeth i Gatalwnia ym mis Hydref y llynedd.

Caniatâd

Mae’r Llys Cyfansoddiadol hefyd wedi dweud bod yn rhaid i Carles Puigdemont dderbyn caniatâd llys er mwyn cymryd rhan yn y sesiwn ddydd Mawrth (Ionawr 30).

Ond, mae cyfreithiwr Carles Puigdemont wedi dweud ei fod yn annhebygol o ofyn am ganiatâd.

Yn ôl y Llys Cyfansoddiadol, bydd y sesiwn yn annilys os fydd Carles Puigdemont yn cymryd rhan heb ganiatâd.