Mae hunanfomiwr wedi lladd 95 o bobol, ac wedi anafu 158 yn rhagor yn Kabul, prifddinas Afghanistan.
Cafodd cerbyd ei ffrwydro, yn ôl llywodraeth y wlad fore Sadwrn.
Roedd mwg trwchus, tywyll yn codi o adeilad y llywodraeth, meddai llefarydd.
Fe fu sawl ffrwydrad yno dros y flwyddyn ddiwethaf, a’r Taliban a Daesh – neu’r Wladwriaeth Islamaidd – yn hawlio cyfrifoldeb.
Y Taliban sy’n hawlio cyfrifoldeb y tro hwn.