Mae Gogledd Corea wedi cytuno i anfon cystadleuwyr, swyddogion a newyddiadurwyr i Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Ne Corea fis nesaf.

Mae swyddogion y ddwy wlad wedi cyfarfod i drafod sut i gydweithio ar y gemau a fydd yn cael eu cynnal yn Pyongchang ar Chwefror 9-25.

Ond yn fwy arwyddocaol, fe ddaw’r trafodaethau wedi blwyddyn llawn tensiwn, wrth i’r Gogledd fygwth America a gweddill y byd gyda’i chynlluniau i ddatblygu arfau niwclear.

Mae De Corea wedi awgrymu hefyd y gallai cynrychiolwyr y Gogledd orymdeithio ar y cyd â nhw yn ystod seremonïau agor a chau y gemau.

Bydd y trafodaethau yn parhau yn hwyrach ddydd Mawrth yn Panmunjom, yr unig le ar y ffin lle y mae milwyr Gogledd a De Corea droedfeddi yn unig oddi wrth ei gilydd.

Mae De Corea yn awyddus i sicrhau cyfleoedd i deuluoedd sydd wedi eu rhannu gan y ddwy wlad i gwrdd. Mae Gogledd Corea yn debygol o ofyn i Dde Corea roi’r gorau i ddarllediadau propaganda a chydweithio milwrol gyda’r Unol Daleithiau.