Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ymddangos fel pe bai’n bygwth torri arian i Awdurdod y Palesteiniaid.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Donald Trump yn gofyn y cwestiwn, pam y dylai America wneud mwy o’r “taliadau anferth hyn” i’r Palesteiniaid, “a nhwthau ddim bellach yn fodlon trafod heddwch”.

“Mae’r Unol Daleithiau yn talu cannoedd o filiynau o ddoleri bob blwyddyn i’r Palesteiniaid,” meddai Donald Trump, “a hynny heb iddyn nhw ddangos unrhyw werthfawrogiad na pharch.

“Dydyn nhw ddim hyd yn oed eisiau trafod cynllun heddwch gydag Israel,” meddai wedyn. “Ac mae’n hen bryd i hynny ddigwydd.”

Mae Donald Trump wedi codi gwrychyn Palesteiniaid a Mwslimiaid ledled y Dwyrain Canol pan wnaeth ei ddatganiad ddiwedd y llynedd fod yr Unol Daleithiau yn ystyried Jerwsalem yn brifddinas Israel, ac y byddai America yn symud ei llysgenhadaeth yno o Tel Aviv.