Mae dynion arfog wedi saethu’n farw beth bynnag 17 o addolwyr mewn gwasanaeth i groesawu’r flwyddyn newydd yn Nigeria.

Mae adroddiadau lleol yn dweud fod pobol wedi’u lladd ar fin y ffordd y tu allan i’r eglwys, wrth geisio dianc rhag y bwledi.

Does yr un grwp eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad yn River State, ond y gred ydi mai grwp arfog sy’n gyfrifol am herwgipio a ladd pobol yn yr ardal sydd y tu ol i’r digwyddiad diweddaraf hwn.