Mae aelodau o gangiau gwahanol sydd yng ngharchar yn Brasil, wedi bod yn ymladd ei gilydd.

Hyd yn hyn, mae naw o ddynion wedi marw, a 14 wedi’u hanafu.

Mae’r awdurdodau yn Aparecida de Goiana yn dweud fod y trais wedi dechrau ar ol i garcharorion o un adain ymosod ar dair adain arall, lle mae aelodau o gangiau eraill yn byw.

Fe gafodd matresi eu rhoi ar dân, ac mae cyrff y meirw hefyd wedi’u llosgi. Mae diffoddwyr tân wedi cael mynedig i’r adeilad, ac wedi llwyddo i ddiffodd y fflamau.

Mae’r cyfryngau yn Brasil yn adrodd fod cymaint â 106 o garcharorion wedi dianc yn ystod yr ymladd. Mae’r awdurdodau yn dwed mai 29 o garcharorion sydd wedi manteisio ar y sefyllfa er mwyn rhedeg i ffwrdd

Mae’r adroddiadau hefyd yn dweud fod 127 o garacharorion eraill wedi dianc, ond wedi penderfynu dychwelyd ar eu liwt eu hunain.