Mae diffoddwyr tân yn California yn ymladd y tân mwyaf erioed a gafodd ei gofnodi yn y dalaith.

Dros y bythefnos ddiwethaf mae dau o bobl wedi eu lladd a 700 o gartrefi wedi eu dinistrio gan dân Thomas, sy’n ymestyn dros 427 o filltiroedd sgwâr ar gyrion dinas Los Angeles yn ne’r dalaith.

Mae gwyntoedd cryf a thywydd sych wedi golygu bod y tân wedi ymestyn yn hynod o gyflym, er bod diffoddwyr bellach wedi llwyddo i arafu ei dwf.

Er bod tua 18,000 o dai yn y dalaith yn dal mewn perygl ddoe, mae tywydd oerach gwlypach wedi helpu’r diffoddwyr i’w reoli.