Mae dwy ochr y rhyfel cartref yn Ne Sudan wedi cytuno i roi’r gorau i gwffio ar Noswyl Nadolig, yn yr ymdrech ddiweddara’ i ddod â’r brwydro i ben.
Mae’r ddwy ochr wedi arwyddo cytundeb sy’n golygu y bydd cymorth dyngarol yn gallu cyrraedd yr ardaloedd sydd fwyaf ei angen. Fe ddaw wedi dyddiau o drafod dan arweiniad Ethiopia.
Mae disgwyl i’r cadoediad ddod i rym fore Sul, Rhagfyr 24.
Mae hi’n dod yn bum mlynedd ers i’r rhyfel cartref yn Ne Sudan ddechrau, a does neb yn gallu dweud yn iawn faint o gannoedd o filoedd o bobol sydd wedi’u lladd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Tra bod rhai rhannau o’r wlad yn wynebu newyn, mae ymhell dros filiwn o bobol wedi ffoi dramor.