Mae barnwr yn y Goruchaf Lys yn Sbaen wedi rhyddhau chwech o wleidyddion Catalwnia ar fechnïaeth heddiw.

Ond mae pedwar arall gan gynnwys cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia, Oriol Junqueras, yn parhau dan glo.

Yn ogystal, mi fydd Joaquim Forn, gweinidog mewnol Catalwnia, yn parhau yn y carchar a dau o arweinwyr ymgyrchoedd annibyniaeth wedi iddyn nhw gael eu carcharu fis Tachwedd am gyhuddiadau o wrthryfela.

Yn y cyfamser mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, a rhai o arweinwyr eraill yn parhau i gael lloches yng Ngwlad Belg, ond maen nhw’n wynebu cael eu hestraddodi i Sbaen lle byddan nhw’n wynebu cyhuddiadau.

Daw hyn wrth i’r tensiynau ddwysau ar drothwy’r etholiad yno ar Ragfyr 21.