Roedd dros 50,000 o bobol yn Stadiwm Olympaidd Barcelona neithiwr ar gyfer cyngerdd i ddangos cefnogaeth i garcharorion Catalwnia.

Fe fydd Goruchaf Lys Sbaen yn penderfynu ddydd Llun a ddylai deg o arweinwyr gael mynd â’u traed yn rhydd ar ôl iddyn nhw gael eu carcharu am eu rhan yn y refferendwm annibyniaeth ddeufis yn ôl.

Bydd etholiadau Sbaen yn cael eu cynnal ar Ragfyr 21, ac mae disgwyl i rai o’r carcharorion sefyll ar ôl i Lywodraeth Sbaen gael eu beirniadu yn sgil eu triniaeth ohonyn nhw.

Achos llys

Aeth barnwr y Goruchaf Lys, Pablo Llarena ati ddydd Gwener i ddechrau’r broses o holi’r carcharorion.

Mae’r rhan fwyaf wedi’u cyhuddo o wrthryfela, annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus.

Ymhlith y carcharorion mae cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia Oriol Junqueras, saith gweinidog rhanbarthol ac arweinwyr dwy gymdeithas sydd o blaid annibyniaeth.

Mae erlynwyr yn galw am gadw’r deg dan glo oherwydd y perygl y gallen nhw fwrw ymlaen gyda’u cynlluniau am annibyniaeth.

Mae’r barnwr Pablo Llarena bellach yng ngofal yr achos ar ôl i Lys Cenedlaethol Sbaen gamu o’r neilltu.

Carles Puigdemont

Yn dilyn y refferendwm annibyniaeth, sy’n cael ei ystyried yn anghyfreithlon gan Sbaen, fe wnaeth y cyn-Arlywydd Carles Puigdemont ffoi i Wlad Belg.

Mae’n dal yno ac yn aros i glywed a fydd yn cael ei estraddodi i Sbaen i wynebu cyhuddiadau.

Fe allai gael ei garcharu am hyd at 30 o flynyddoedd pe bai llys yn ei gael yn euog.

Mae lle i gredu y bydd e a’r carcharorion eraill yn cymryd rhan yn yr etholiad cyffredinol.