Mae Arlywydd Zimbabwe wedi apwyntio aelodau newydd i’w Gabinet, gan ddyrchafu ffigyrau milwrol wnaeth ei gynorthwyo mewn coup.

Ymysg aelodau cabinet Emmerson Mnangagwa mae yna Uwchfrigadydd, Marsial a Phennaeth cymdeithas cyn-filwyr.

Daeth Emmerson Mnangagwa i rym yn dilyn ymgyrch gan fyddin y wlad i ddisodli’r cyn-Arlywydd, Robert Mugabe – dyn fu wrth y llyw am 37 o flynyddoedd.

Mae’r cabinet newydd yn debygol o siomi llawer yn Zimbabwe, gan nad oes unrhyw aelod o’r wrthblaid ynddo.

Nid yw yn amlwg pwy fydd is-Arlywydd Zimbabwe.