Mae o leiaf 19 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn cyrchoedd awyr ar gyrion dinas Damascus yn Syria.

Cafodd y cyrchoedd eu cynnal tros ardal dwyrain Ghouta heddiw.

Pobol gyffredin sydd wedi’u lladd, yn ôl yr awdurdodau.

Mae prinder bwyd a meddyginiaeth yn effeithio’n fawr ar drigolion y ddinas yn dilyn rhwystrau gan y llywodraeth.

Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae 350,000 o bobol heb gymorth angenrheidiol yn yr ardal.