Dydy’r trafodaethau i ffurfio llywodraeth glymblaid yn Yr Almaen ddim wedi dwyn ffrwyth ac mae’r Canghellor, Angela Merkel, yn wynebu un o heriau mwyaf ei chyfnod wrth y llyw.
Mae’r Canghellor wedi galw am sefydlogrwydd a hynny wedi i’r Blaid Ddemocrataidd Rydd (FDP) dynnu’n ôl o’r trafodaethau i ffurfio llywodraeth glymblaid gyda’i bloc ceidwadol hi (CDU/CSU) a’r Gwyrddion.
Mae’n debyg fod y pleidiau’n anghydweld am faterion yn ymwneud â mudo a newid hinsawdd ac mae arweinydd yr FDP, Christian Lindner, wedi dweud fod ei blaid wedi tynnu’n ôl am na allan nhw gyfaddawdu i bolisïau nad ydynt wedi’u hargyhoeddi amdanyn nhw.
Camau nesaf
Mae Angela Merkel yn dweud ei bod yn “parchu” penderfyniad y blaid ond ei fod yn “anffodus.”
Y dewisiadau posib nesaf yw ffurfio clymblaid gyda’r Democratiaid Cymdeithas neu i geisio ffurfio llywodraeth leiafrifol, neu fel arall fe allai’r Almaen wynebu etholiadau newydd.
Mae disgwyl i Angela Merkel gwrdd â Llywydd yr Almaen, Frank-Walter Steinmeier, i drafod y camau nesaf.