Mae protestiadau’n cael eu cynnal yn Zimbabwe yn erbyn yr arweinydd 93 oed, Robert Mugabe ar ôl iddo gael ei symud o’i swydd a’i garcharu yn ei gartref.

Mae’r trafodaethau i drosglwyddo grym ar y gweill, ond mae e’n mynnu mai fe yw’r arweinydd o hyd, ac yn gwrthod ildio’i rym.

Mae protestwyr yn gobeithio y bydd eu gweithredoedd yn ninas Harare yn cyflymu’r broses o ddod â chyfnod Robert Mugabe i ben.

Sefyllfa economaidd y wlad sy’n cael y bai am ddiffyg amynedd ei thrigolion, wrth i Robert Mugabe ofyn am ragor o amser i wyrdroi’r sefyllfa.

Y cam nesaf

Mae pryderon ar hyn o bryd ynghylch pwy fydd yn ei olynu.

Ymhlith yr opsiynau mae’r fyddin neu ei ddirprwy tan yn ddiweddar, Emmerson Mnangagwa oedd wedi cael ei ddiswyddo.

 

Ac ymhlith y protestwyr heddiw mae ymgyrchwyr yn erbyn arweinwyr croen gwyn, oedd unwaith yn cydweithio’n agos â’r arweinydd, ynghyd â chefnogwyr y gwrthbleidiau sydd wedi cael eu gormesu gan weinyddiaeth Robert Mugabe.