Mae criwiau achub yng Ngroeg yn chwilio am chwech o bobol sydd ar goll yng ngorllewin dinas Athen, wedi i lifogydd ladd 14 o bobol ddoe.

Mae’r chwilio yn ardal Mandra ar gyrion y brifddinas yn digwydd wedi i storm droi ffyrdd yn afonydd o bridd brown. Fe gafodd ceir eu sgubo i mewn i adeiladau gan y llif.

Mae llywodraeth Groeg wedi cyhoeddi heddiw (dydd Iau) yn ddiwrnod o alaru cenedlaethol.

Mae ysgolion ar gau, tra bod yr awdurdodau lleol yn Athen wedi rhwystro pobol rhag mynd at afonydd a nentydd. Mae hi’n dal i fwrw yn y ddinas.