Ddyddiau’n unig ar ôl ei daith i Asia, mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi cyfnewid negeseuon sarhaus ag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un.

Mewn cyfres o negeseuon, dywedodd Donald Trump fod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn “ffuantus”; fod cyn-swyddogion cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau’n “haciau gwleidyddol”; a bod y Democratiaid yn ceisio niweidio perthnasau rhyngwladol yr Unol Daleithiau.

Ac fe ddywedodd unwaith eto nad oedd Rwsia wedi ymyrryd yn etholiadau arlywyddol y wlad pan gafodd ei ethol.

Negeseuon sarhaus

Ond fe ddaeth y sylwadau mwyaf rhyfedd wrth gyfeirio at arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un.

Mewn neges ar wefan Twitter o Fietnam, dywedodd Donald Trump: “Pam fyddai Kim Jong Un yn fy sarhau i drwy fy ngalw i’n “hen”, pan fyddwn i fyth yn ei alw fe’n “fyr a thew?”

Ychwanegodd ei fod “yn trio’n galed i fod yn ffrind iddo fe”.

Mae’r tensiynau rhwng y ddwy wlad yn parhau ar ôl i’r Unol Daleithiau geisio cefnogaeth i’w hymgais i atal rhaglen niwclear Gogledd Corea.

Ond yn dilyn araith o Dde Corea gan Donald Trump, mae Gogledd Corea wedi dweud ei fod e’n “hen wallgofddyn”.