Mae pryderon y gallai sianel Sky News ddod i ben pe bai cynlluniau 21st Century Fox i brynu Sky yn cael eu difetha.

Mae’r cwmni ffilm yn ceisio prynu’r darlledwr am £11.7bn, ond mae’r broses dan y chwydd wydr oherwydd y gallai roi gormod o gyfran o’r farchnad i un cwmni.

Dywedodd Sky wrth yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd na ellir cymryd dyfodol Sky News yn ganiataol pe bai’n debygol o darfu ar werthiant y cwmni.

Teulu Rupert Murdoch sy’n berchen ar gwmni 21st Century Fox, a’u gobaith yw prynu’r 61% o’r cwmni nad ydyn nhw eisoes yn berchen arno.

Mae gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd oddeutu chwe mis i graffu ar y sefyllfa ac i gyflwyno tystiolaeth i Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, Karen Bradley cyn ei bod hi’n cymeradwyo’r cytundeb neu’n gosod amodau arbennig arno.

Fe fydd yr Awdurdod hefyd yn ymchwilio i honiadau o gamymddwyn o fewn cangen Americanaidd Fox – gan gynnwys hiliaeth, rhywiaeth a ffugio dyfyniadau mewn straeon newyddion.