Mae dau berson wedi’u lladd ac o leiaf 21 wedi’u hanafu yn dilyn ymosodiad ar orsaf deledu ym mhrifddinas Afghanistan.

Roedd dau unigolyn yn gyfrifol am yr ymosodiad – un ohonyn nhw’n hunan fomiwr – a dywed yr awdurdodau yno eu bod nhw bellach wedi’u lladd.

Cafodd sawl aelod o staff Shamshad TV yn Kabul, eu hachub gan yr heddlu ond bu farw dyn a dynes oedd yn gweithio yno.

Mae grŵp brawychol y Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad.

Mae cangen IS yn Afghanistan wedi cynnal sawl ymosodiad yn y wlad yn ddiweddar, gan dargedu’r lleiafrif Shïaidd yn bennaf.