Mae’r heddlu’n ymchwilio i’r honiad diweddaraf yn erbyn Harvey Weinstein yn Los Angeles.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i’r heddlu yn Efrog Newydd ddweud bod honiad arall yn erbyn y cyfarwyddwr ffilm yn “gredadwy”.

Efrog Newydd

Mae’r actores Paz de la Huerta wedi ei gyhuddo mewn cylchgrawn o’i threisio ddwywaith yn 2010 ac yn ôl yr heddlu, mae ganddyn nhw ddigon o dystiolaeth i’w arestio.

Dywedodd yr heddlu yn Los Angeles brynhawn dydd Gwener eu bod nhw’n ymchwilio i honiad ei fod e wedi “ymddwyn yn anweddus” yn 2015.

Ond gan nad yw Harvey Weinstein yn Efrog Newydd ar hyn o bryd, byddai angen i’r heddlu wneud cais arbennig i’w arestio.

Los Angeles

Mae’r heddlu yn Los Angeles yn ymchwilio i honiadau bod Harvey Weinstein wedi treisio actores Eidalaidd mewn gwesty yn Beverly Hills yn 2013.

Bellach, mae pedwar o heddluoedd yn ymchwilio i honiadau yn erbyn y cyfarwyddwr.

Mae dwsinau o actorion ac actoresau wedi gwneud honiadau am ei ymddygiad tuag atyn nhw.

Mae Heddlu Llundain hefyd yn ymchwilio i 11 o gyhuddiadau gan saith o fenywod.

Ond mae Harvey Weinstein yn gwadu ei fod e wedi gwneud unrhyw beth o’i le.