Mae byddin yr Unol Daleithiau wedi cynnal ymosodiadau o’r awyr ar luoedd Daesh – neu’r ‘Wladwriaeth Islamaidd’ yn Somalia am y tro cyntaf.

Mae’n debyg bod presenoldeb y grŵp Islamaidd eithafol yn cynyddu yn Somalia – mae’r wlad eisoes yn gartref i grŵp al-Shabab sydd â chysylltiadau ag al-Qaida.

Yn ôl swyddogion yr Unol Daleithiau, cafodd dau ymosodiad eu cynnal. Mae’n ymddangos mai pentref mynyddig Buqa gafodd ei dargedu.

Mae grŵp al-Shabab eisoes wedi cael ei dargedu gan fyddin yr Unol Daleithiau eleni, yn dilyn gorchymyn gan yr Arlywydd.