Mae byddin Syria yn honni eu bod wedi erlid aelodau’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) o ddinas ddwyreiniol Deir el-Zour.

Bellach mae’r ddinas gyfan dan reolaeth lluoedd Syria, yn dilyn ymgyrch filwrol wythnosau o hyd.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd eisoes wedi colli ei gafael dros gyfres o gadarnleoedd dinesig gan gynnwys Raqqa a Mosul, a dyma’r ergyd fwyaf diweddar i’r ‘galiffiaeth’.

Â’r ddinas wedi i gipio o afael IS, mae disgwyl i luoedd Syria a lluoedd Cwrdaidd fynd ati yn awr i geisio meddiannu meysydd olew’r dalaith.