Dros yr 11 diwrnod diwethaf, mae heddlu Twrci wedi arestio 283 o bobol sy’n cael eu hamau o fod yn aelodau o’r Wladwriaeth Islamaidd (IS).

Fe ddaeth y datganiad heddiw, gan nodi hefyd fod 66 o ddyfeisiau ffrwydrol wedi’u cymryd yn ystod cyrchoedd mewn 25 o ranbarthau yn y wlad.

O blith y 283 o bobol sydd bellach yn y ddalfa, mae 96 yn ddinasyddion Twrci, ac mae 187 yn dod o lefydd eraill yn y byd.

Mae mudiad IS yn cael y bai am gynnal ymosodiadau sydd wedi lladd mwy na 300 o bobol ers 2015.