Mae beth bynnag 26 o bobol wedi’u lladd, a dwsinau eraill wedi’u hanafu, mewn ffrwydrad mewn gorsaf bwer yng ngogledd India.

Fe ffrwydrodd pibell yn cario lludo o’r tanau glo yn un o’r boileri newydd ar y safle yn Unchahar yn nhalaith Uttar Pradesh. Fe gafodd lludw poeth ei boeri i bob cyfeiriad, a thros y gweithwyr.

Mae’r awdurdodau’n rhybuddio bod nifer y bobol sydd wedi’u lladd yn debygol o godi, a hynny oherwydd bod o leiaf ddwsin o bobol wedi dioddef llosgiadau difrifol.

Mae tim o weithwyr achub gan y llywodraeth wedi’u hanfon i’r safle, ac mae ymchwiliad ar y gweill er mwyn ceisio penderfynu beth achosodd y ddamwain.