Mae gweision sifil Catalwnia’n wynebu eu hwythnos lawn gyntaf o waith ers i Lywodraeth Sbaen gymryd grymoedd oddi arnyn nhw.
Daw hyn wedi i Lywodraeth Catalwnia basio cynnig ddydd Gwener i gyhoeddi annibyniaeth o Sbaen.
Ond ers hynny mae Llywodraeth Sbaen wedi diddymu Senedd Catalwnia gan alw am etholiadau yno ar Ragfyr 21.
Mi fydd llygaid y byd yn aros i weld sut y bydd y 200,000 o weithwyr cyhoeddus yng Nghatalwnia yn ymateb i hynny ac a fydd rhai yn protestio.
Mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, wedi galw am “ymateb heddychlon.”
Protestio
Dros y Sul mi fu cannoedd o filoedd o bobol yn rhan o arddangosfa gwrth-annibyniaeth ym Marcelona yn galw ar Gatalwnia i aros yn rhan o Sbaen.
Mae rhai yn poeni am effaith hyn ar economi gyda rhai cwmnïau eisoes wedi symud i Sbaen oherwydd yr ansicrwydd.
Erthygl 155
Daw pwerau Llywodraeth Sbaen o dan erthygl 155 o gyfansoddiad y wlad sy’n rhoi’r hawl iddyn nhw dynnu pwerau datganoledig yn ôl i Fadrid.
Yn ogystal, mi allai Carles Puigdemont ac aelodau eraill y llywodraeth gael eu cyhuddo o dorri’r gyfraith.