Abdelbaset al-Megrahi pan gafodd ei ryddhau ddwy flynedd yn ol
Mae newyddiadurwyr wedi cael hyd i fomiwr Lockerbie, sydd bellach ar ei wely angau yn ei gartref yn Tripoli, prifddinas Libya.

Roedd Abdelbaset al-Megrahi wedi cael ei ryddhau o garchar yn yr Alban am resymau dyngarol ddwy flynedd yn ôl, pryd nad oedd disgwyl iddo fyw am fwy na thri mis.

Dywed ei deulu mai ocsigen a hylifau’n unig sy’n ei gadw’n fyw bellach, ac mae ei fab Khaled al-Megrahi wedi apelio ar deledu CNN am i’w dad gael treulio’i ychydig ddyddiau olaf mewn heddwch yn ei gartref.

Dywedodd Nic Robertson, gohebydd CNN a ymwelodd â’i gartref, fod y bomiwr yn edrych yn llawer iawn gwaelach na phan welodd ef ddwy flynedd yn ôl.

“Mae’n llawer gwaelach, ei wyneb wedi suddo … nid yw ond cysgod o’r hyn oedd,” meddai. “Fe ges i sioc pan gerddais i’r ystafell a’i weld yn y fath gyflwr.”

Wrth ymateb i’r newyddion am gyflwr al-Megrahi, dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, na fyddai llywodraeth yr Alban yn ystyried gwneud cais i lywodraeth newydd Libya am ei estraddodi.

“Mae’r lluniau diweddaraf sydd wedi cael eu darlledu o Mr al-Megrahi yn dangos yn glir ei fod yn ddyn gwael iawn, yn marw o ganser terfynol y prostad,” meddai.

“Gobeithio y bydd hyn yn rhoi diwedd ar y damcaniaethau cynllwyn chwerthinllyd sy’n ceisio honni unrhyw beth arall.”