Ymladdwyr tân yn mynd i’r afael â’r llifogydd yn Brooklyn, Efrog Newydd, heddiw (AP Photo/Seth Wenig)
Mae Corwynt Irene wedi arafu ychydig a throi’n storm drofannol wrth gyrraedd Efrog Newydd y prynhawn yma.

Ond er bod ei gwyntoedd wedi arafu i 60 milltir yr awr, mae’n dal yn storm bwerus ac wedi hyrddio ymchwydd tonnau wyth troedfedd o uchder tuag at y ddinas.

Mae llifogydd difrifol wedi bod ar hyd arfordir dwyreiniol America, ac mae o leiaf 11 o bobl wedi cael eu lladd erbyn hyn a 4 miliwn o gartrefi heb gyflenwad trydan.

Mae gwasanaeth tân dinas Efrog Newydd wedi achub 61 o oedolion a thri o fabanod o lifogydd mewn tai ar hyd a lled y ddinas ac wedi bod yn chwilio am bobl eraill a allai fod wedi cael eu dal.

Roedd y rhai a gafodd eu hachub yn cynnwys 26 o bobl o dri theulu ar Staten Island ar ôl i’w cartrefi gael dros bum troedfedd o ddŵr.

Ac yn ardal Queens o’r ddinas, mae achubwyr wedi bod mewn cychod ar hyd rhai strydoedd er mwyn sicrhau nad oedd neb yn y byngalos arnyn nhw.

Tawelwch

Mae’r ddinas wedi bod yn iasol o dawel drwy’r dydd, gyda’r system drafnidiaeth gyhoeddus wedi cau am y tro cyntaf mewn hanes oherwydd y tywydd.

Mae pentyrrau o fagiau tywod o flaen prif sefydliadau ariannol Wall Street a siopau’r ddinas, mae pob gêm a chyngerdd wedi eu canslo, ac mae’r gwaith adeiladu ar safle Canolfan Fasnach y Byd wedi dod i stop.

Mae disgwyl i’r storm barhau i wanhau wrth fynd i gyfeiriad New England a dwyrain Canada heno.