Llong yn cludo dwr, bwyd a chyflenwadau meddygol wedi glanio yn Tripoi (AP)
Mae dwy filiwn o bobl yn gorfod dygymod â phrinder mawr o danwydd, dŵr a thrydan ym mhrifddinas Libya, Tripoli.

Yn wyneb pryderon cynyddol am argyfwng dyngarol yn y wlad, dwysáu mae’r ymdrechion i osgoi trychineb ar ôl cwymp cyfundrefn Muammar Gaddafi.

Mae llong fawr, o dan nawdd elusen ryngwladol, wedi glanio yn harbwr Tripoli ac mae bwyd, dŵr a chyflenwadau meddygol wrthi’n cael ei dadlwytho ohoni ar hyn o bryd. Yn hwyrach heddiw, fe fydd y llong yn dychwelyd gan gludo 1,200 o dramorwyr sydd wedi bod yn methu â gadael y ddinas.

Mae llywodraeth Prydain wedi cyfrannu £3 miliwn i ddarparu cymorth meddygol brys i hyd at 5,000 o bobl sydd wedi eu hanafu, yn ogystal â bwyd a hanfodion eraill i bron i 700,000 o bobl.

‘Angen mawr’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Datblygu Rhyngwladol, Andrew Mitchell, fod llawer o bobl Libya mewn angen mawr am help dyngarol wrth i’r ymladd ddirwyn i ben.

“Mae’r sefyllfa yn Tripoli yn hynod o anodd i’r mudiadau dyngarol” meddai.

“Ond mae sefydliadau fel y Groes Goch Ryngwladol yn gwneud gwaith eithriadol mewn amgylchiadau peryglus ac anodd i gael cyflenwadau a meddygon i’r rhai sydd eu hangen.”

Y gred yw fod lluoedd y gwrthryfelwyr yn rheoli fwy neu lai y cyfan o Tripoli, gyda’r gwrthwynebiad iddyn nhw’n crebachu. Fodd bynnag, does dim arwydd o Gaddafi ei hun, ac mae ymladd ffyrnig wedi parhau mewn rhannau eraill o’r wlad.