Mae Irene yn gorwynt anferthol ac iddo rychwant o 500 milltir (o wefan NASA)
Mae o leiaf wyth o bobl wedi cael eu lladd yn America wrth i Gorwynt Irene chwyrlïo i fyny arfordir y dwyrain tuag at Efrog Newydd.

Dros y diwrnod diwethaf mae’r corwynt wedi gollwng troedfedd o law yn nhaleithiau Gogledd Carolina a Virginia ac wedi torri cyflenwad trydan dros ddwy filiwn o gartrefi.

Mae strydoedd Efrog Newydd yn wag, a’r tonnau eisoes yn codi yn harbwr y ddinas wrth i’r storm ddynesu. Mae disgwyl y bydd yn taro’r ddinas yn hwyrach heddiw.

Mae dinasoedd Washington, Philadelphia a Boston hefyd yn paratoi at y gwaethaf.

500 milltir

Mae Irene yn gorwynt anferth ac iddo rychwant o tua 500 milltir, sy’n bygwth rhan o America sy’n cynnwys poblogaeth o 65 miliwn.

Mae ofnau am lifogydd dinistriol ar hyd llawer o’r arfordir dwyreiniol yn sgil cyfuniad o ymchwydd tonnau, llanw uchel a glaw trwm.

Rhybuddia llywodraethwr Pennsylvania, Tom Corbett, na fydd y perygl drosodd o angenrheidrwydd ar ôl i’r corwynt fynd heibio.

“Efallai na fydd yr afonydd wedi cyrraedd eu hanterth tan ddydd Mawrth neu ddydd Mercher. Nid digwyddiad 24 awr mo hwn,” meddai.

Mae’r bobl a gafodd eu lladd yn cynnwys dau o blant – bachgen 11 oed yn Virginia a fu farw wrth i goeden syrthio trwy do ei dŷ, a phlentyn yng Ngogledd Carolina a fu farw mewn damwain car yn sgil y storm. Cafodd pedwar o bobl eraill eu lladd gan goed neu ganghennau’n disgyn – dau yn Virginia, un yng Ngogledd Carolina ac un ym Maryland. Cafodd dau arall eu lladd gan donnau ar lan y môr yn Florida.