Corwynt Irene (o wefan Earth Observatory NASA)
Ar ôl dinistrio cannoedd o gartrefi ar ynysoedd y Bahamas, mae Corwynt Irene bellach ar ei ffordd i arfordir dwyreiniol America.

Mae disgwyl i Irene gyrraedd Gogledd Carolina yfory gyda gwyntoedd 115 milltir yr awr a gallai ollwng troedfedd o law.

Mae tair o siroedd arfordirol y dalaith wedi cyhoeddi gorchmynion ar i 200,000 o bobl adael eu cartrefi, ac mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn y dalaith, a fydd yn ei galluogi i gael help ariannol gan y llywodraeth ganolog.

Mae rhybuddion o’r corwynt wedi cael eu cyhoeddi ar hyd arfordir dwyreiniol America o Ogledd Carolina i New Jersey.

Gyda Washington, Efrog Newydd a Boston yn llwybr y corwynt, mae disgwyl y bydd yn effeithio ar hyd at 65 miliwn o bobl, ac achosi gwerth biliynau o ddoleri o ddifrod.

Mae Irene yn storm anferth, tua’r un faint â Katrina a ddifrododd New Orleans yn 2005.

“Ni fydd yr un fath â Katrina, ond mae’n ddifrifol,” meddai arbenigwr metereoleg Kerry Emanuel. “Rhaid i bobl ei chymryd o ddifrif.”

Hwn fydd y corwynt cryfaf i daro arfordir gogledd-ddwyreiniol America ers saith mlynedd.