Muammar Gaddafi
Wrth i fyddin gwrthryfelwyr Libya chwilio’r brifddinas Tripoli am Muammar Gaddafi, mae Tweli Griffiths wedi bod yn trafod ei brofiad wrth gwrdd â’r unben yn 1988.
Roedd y newyddiadurwr wedi cyfweld y Cyrnol ar gyfer rhaglen y Byd ar Bedwar bryd hynny.
“Y rheswm dros fynd oedd bod Gaddafi mor ddadleuol ar y pryd,” meddai Tweli Griffiths wrth Golwg360.
“Roedd e wedi cael ei fomio gan yr Americaniaid hefyd am eu bod nhw’n amau ei fod yn derfysgwr.
“Felly, ro’n i’n teimlo bod angen i ni gael gwybod mwy amdano fe a’r wlad. Y person oedd y tu ôl i’r penawdau newyddion.”
Dywedodd fod y cyfle i’w gyfweld yn un “cyffrous” iddo.
“Ro’ ni wedi gofyn am y cyfweliad o flaen llaw, wrth gwrs. Ro’ ni’n gwybod y byddai’r cyfweliad yn digwydd yn ei babell e. Mae gyda fe babell Bedouin yn y baracs milwrol yn Tripoli,” meddai.
Fe gafodd Muammar Gaddafi ei eni a’i fagu mewn pabell fel hyn, yn aelod o lwyth y Bedouin yn yr anialwch.
‘Cerdded drwy’r clawdd’
“Doedd yna ddim llawer o drefn yn y lle. Doedd rhywun ddim yn gwybod mewn gwirionedd beth oedd yn digwydd o un diwrnod i’r llall o ran ffilmio.
“Roedden ni ar ein diwrnod olaf o ffilmio pan ddaeth dau swyddog i’n casglu ni mewn fan a mynd a ni o’r gwesty i’r baracs milwrol.
“Mi aeth y fan i’r baracs milwrol a ro’n i’n meddwl bod ’na siawns am gyfweliad.’ Ond, dyma ni’n pasio un babell heb stopio. Dyma basio pabell arall, heb stopio ac wedyn yn y diwedd, mi arhosodd y fan wrth ochr clawdd, y tu mewn i’r baracs.
“Wedyn dyma dwll yn agor yn y clawdd a dyma ‘na fraich yn dod drwy’r twll ac yn ein tywys ni i mewn.
“Felly, mi aethon ni gyd o’r fan a cherdded drwy’r twll yn y clawdd. Ar ochr arall i’r clawdd, roedd yna babell arall, a dyna le’r oedd e,” meddai gan ddisgrifio’r profiad fel un “eithaf doniol”.
Arfau i’r IRA?
“Roedd teledu Libya yno yn ein ffilmio ni, a ni’n eu ffilmio nhw. Y prif gwestiwn ar y pryd wrth gwrs oedd a oedd Gaddafi wedi rhoi arfau i’r IRA.
“Roedd e’n osgoi ateb y cwestiwn fel yr oeddwn i wedi ei ddisgwyl, wrth gwrs.
“Roedd ganddo ddau gyfieithydd, a phan wnaethon ni drawsgrifio’r cyfweliad yn y diwedd, fe sylwais i fod Saesneg Gaddafi yn well na’r ddau gyfieithydd,” meddai.
“Yn y trawsgrifiad, ro’ ni’n gweld ei fod e’n eu ceryddu nhw o bryd i’w gilydd am beidio a chyfieithu’n gywir… Roedd yr holl beth yn ddigon doniol.”
“Pan nad oedd y camera arno roedd e’n ymlacio ac yn gyfeillgar. Ond o flaen y camera roedd e’n edrych yn eithaf ffurfiol a bygythiol a dweud y gwir.”
‘Cymhleth iawn’
“Mae e’n ddyn cymhleth iawn,” meddai Tweli Griffiths wedyn.
“Yn ei ieuenctid, roedd e wedi’i ysbrydoli yn gyntaf gan genedlaetholdeb Arabaidd. Ei arwr mawr e oedd Nasser o’r Aifft oedd yn cael ei weld fel arweinydd y bobol Arabaidd i gyd. Ar ôl marwolaeth Nasser, roedd Gaddafi yn awyddus iawn i barhau â’r rôl honno.
“Roedd e hefyd yn rhyw fath o sosialydd yn yr ystyr fod e wedi’i eni a’i fagu yng nghymdeithas y Bedouin oedd yn byw yn ôl rhyw fath o sosialaeth eu hunain.”
Roedd ei gymhellion gwleidyddol cynnar yn “ddigon derbyniol”, meddai ond daeth y problemau ar ôl iddo “ennill grym”, yn nhyb y gohebydd.
“Cafodd ei lygru gan y grym hwnnw yn y bôn, fel sy’n digwydd i gymaint o bobl wrth gwrs.”
Ddoe a heddiw
Serch hynny doedd dim awgrym bryd hynny o sut fyddai pethau’n datblygu heddiw, meddai.
“Doeddwn i ddim wedi rhagweld y byddai pethau’n troi allan fel hyn, bryd hynny. Mi aeth e drwy gyfnod o helpu unrhyw derfysgwyr ar hyd a lled y byd. Wedyn, mi newidiodd yn llwyr a dod yn ffrind unwaith eto â’r gorllewin yng nghyfnod Tony Blair.
“Mi oedd e wedi dod yn strategol bwysig i America a’r Gorllewin yn yr ystyr bod e’n cadw trefn ar al-Qaeda yn ei wlad ei hun.
“Mi’r oedden nhw’n elynion iddo fe wrth gwrs, ac yn ceisio sefydlu troedle yn Libya, ac roedd e yn eu herlyn nhw ac roedd hynny yn siwtio’r gorllewin yn dda iawn.
“Dyna un o’r rhesymau bod cyfeillgarwch newydd wedi tyfu rhwng Gaddafi, y Gorllewin ac America.
“Roedd gydag e ei athroniaeth wleidyddol ei hunan, sef y Llyfr Gwyrdd yr oedd e’n dweud oedd yn ryw fath o ffordd ganol rhwng cyfalafiaeth a sosialaeth ond nonsens yw hwnnw mewn gwirionedd.
“Roedd e’n rhedeg y lle fel unben – dyna’r gwir amdani, beth bynnag yr oedd e’n ei honni fel arall.”
‘Teimlad o embaras’
“Mi’r oedd h’n wlad digon cyfoethog, diolch i’r olew. Ond, roedd Gaddafi yn tueddu i wario’r arian ar arfau oedd yn golygu nad oedd y cyfoeth mewn gwirionedd yn cael ei rannu rhwng pobl.
“Mi oedd yna deimlad o embaras ymysg y bobol yno bod Gaddafi’n rhoi enw drwg i’r wlad ar blatfform rhyngwladol oherwydd ei gefnogaeth i derfysgaeth.
Dros y blynyddoedd, dywedodd ei bod wedi dod yn “fwy a mwy anodd iddo ddal ei afael ar rym” a’i fod wedi gorfod bod yn “fwy llym o ran gorthrwm” .
“Yn y pen draw roedd pobl wedi cael llond bol ar hynny,” meddai.
“Mae’r math o weinyddiaeth yr oedd e’n ei redeg yn anoddach ei chynnal y dyddiau yma, fel y mae’r gwledydd Arabaidd eraill wedi ei darganfod, wrth gwrs.
“Dw i’n meddwl mai un o’r rhesymau iddo barhau mor hir fel arweinydd yw bod pobl Libya yn arbennig o amyneddgar ac yn fodlon dioddef i ryw bwynt.
“Dechreuodd pethau chwalu pan ddechreuodd y gwledydd Arabaidd eraill newid pethe. Roedd hi’n weddol anochel wedyn y byddai’r peth yn cael Libya hefyd.”
“Dw i ddim yn credu y base hyn wedi digwydd yn Libya oni bai ei fod wedi digwydd yn yr Aifft cyn hynny.
“Roedd pobol wedi gweld eu cyfle dw i’n meddwl.”