Ystlum - gall gario'r gynddaredd, a heintio pobol a ddaw i gysylltiad ag ef
Mae’r awdurdodau iechyd yn chwilio am 15 o bobol a oedd yn teithio ar awyren lle hedfannodd ystlum i mewn i gaban y staff – mae’r awdurdodau’n awyddus i wneud yn siwr bod y teithwyr ddim wedi, nac yn, dal y gynddaredd (rabies) gan yr anifail.

Mae’r Ganolfan er Rheoli a Rhagweld Haint yn yr Unol Daleithiau yn dweud eu bod nhw eisoes wedi cysylltu gyda 35 o’r 50 o bobol a oedd yn teithio ar awyren Delta Air Lines 5121 cwmni Atlantic Southeast Airlines ar Awst 5 – ond maen nhw angen siarad gyda’r 15 arall hefyd.

Doedd yr un o’r 35 sydd wedi eu holi a’u harchwilio wedi gorfod cael triniaeth feddygol, meddai llefarydd ar ran y Ganolfan.  

Roedd yr awyren yn hedfan o Madison, Wisconsin, i Atlanta pan ddaeth yr ystlum i’r golwg. Does neb yn gwybod os oedd o’n cario haint, gan ei fod wedi dianc cyn i neb allu ei ddal.