Silvio Berlusconi, Prif Weinidog yr Eidal
Mae Aelodau Seneddol yr Eidal wedi eu cyhuddo o anfon bygythiadau atyn nhw eu hunain er mwyn ennill yr hawl i gael gwarchodwyr i’w hamddiffyn, yn ôl honiadau newydd.

Daw’r honiadau gan gyn-swyddog seneddol sy’n ysgrifennu ar Facebook dan yr enw ‘Spider Truman’. Mae ganddo eisoes 350,000 o ddilynwyr.

Sefydlodd y dudalen ar Facebook ddechrau’r wythnos er mwyn protestio yn erbyn y breintiau afradlon y mae Aelodau Seneddol yr Eidal yn eu mwynhau.

Mae gwleidyddion y wlad yn cael eu talu’n well na rhai unrhyw wlad arall yn Ewrop.

Mae’r honiadau ar y dudalen Facebook wedi cythruddo rhai o bobol y wlad sy’n teimlo ei fod yn annheg fod ASau yn parhau i gael eu talu’n dda wrth i weddill y wlad ddioddef yn sgil yr argyfwng ariannol.

Yr wythnos diwethaf pasiodd senedd yr Eidal fesur er mwyn arbed €48 biliwn. Ond doedd dim son am ostwng cyflogau Aelodau Seneddol, sy’n ennill €140,000 y flwyddyn.