Everest (Pavel Novak CCA 2.5)
Mae’n bosib y bydd mynydd ucha’r byd yn tyfu neu leihau wrth i wyddonwyr geisio torri dadl ryngwladol.

Mae llywodraeth Nepal wedi penderfynu bod angen ailfesur Mynydd Everest, er mwyn rhoi diwedd ar y dryswch ynglŷn â’i uchder swyddogol.

Mae uchder y mynydd, sydd wedi ei enwi ar ôl y syrfëwr a’r daearyddwr o Grucywel, Syr George Everest, wedi bod yn destun dadl gyson dros y degawdau.

Cafodd ei fesur yn swyddogol am y tro cyntaf yn 1856 ac, erbyn 1955, roedd lled-gytundeb eei fod yn 8,848 metr o uchder.

Ond, yn ddiweddar, mae China, ynghyd â nifer o ddringwyr y Gorllewin, wedi amau’r ffigwr – maen nhw’n mesur uchder y graig tra bod Nepal yn mesur yr eira sydd arni hefyd.

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth Nepal, Gopal Giri, eu bod wedi penderfynu yr wythnos ddiwethaf bod angen ail fesur.

Yn ôl Gopal Giri, bydd dyfais yn cael ei gosod ar ben y mynydd er mwyn mesur uchder y copa trwy ddulliau lloeren.